Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Hydref 2022
Amser:
09.00 -
12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12997
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Dan Cook, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru Russell Gidney, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Yvonne Jones, Cymdeithas Orthodontig Prydain Ben Lewis, Cymdeithas Orthodontig Prydain Dr David Tuthill, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Helen Twidle, Age Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.
1.3 Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru a Chymdeithas Orthodontig Prydain.
2.2 Nododd Ben Lewis y byddai gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn y British Dental Journal yn nhymor yr hydref 2022 am y canlyniadau a ddeilliodd o arolwg cynhwysfawr a gynhaliwyd ynghylch gweithlu’r GIG, a oedd yn dangos ble yng Nghymru yr oedd darparwyr gwasanaethau orthodontig wedi’u lleoli. Cytunodd i anfon copi o’r wybodaeth at y Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.
2.3 Cytunodd Dan Cook i ddarparu gwybodaeth am dâl cyfartalog deintyddion cyffredinol, gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw wahaniaethau mewn cyflog sy’n bodoli ymhlith y rhai sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer y GIG a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau preifat.
3 Deintyddiaeth – sesiwn dystiolaeth gyda’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Age Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ac Age Cymru, a chan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
4 Papur(au) i'w nodi
4.1 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch argymhellion Pwyllgor y Bumed Senedd yn ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant
4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.2 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn ag iechyd meddwl amenedigol
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Deintyddiaeth: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.